Croeso i Barc Ynni Bryn Cadwgan
Mae Parc Ynni Bryn Cadwgan, sy’n cael ei gynnig gan y cwmni ynni adnewyddadwy Galileo, wedi’i leoli ar ffin Sir Gaerfyrddin/ Ceredigion, tua 10km i’r dwyrain o Lambed, 10km i’r de o Dregaron a 16km i’r gogledd o Lanymddyfri.
Yn cynnwys hyd at 25 o dyrbinau gydag uchafswm uchder hyd at flaen y llafn o 230m. Bydd gan yr elfen wynt yn unig gapasiti gosodedig o hyd at 175 megawat (MW). Mae paneli ffotofoltäig solar a thechnoleg system storio ynni batri hefyd yn cael eu hystyried yn y Parc Ynni, yn amodol ar gwblhau astudiaethau technegol pellach.
Wedi’i leoli mewn ardal wledig, denau ei phoblogaeth ym Mryniau Mynyddoedd Cambria, mae safle Parc Ynni Bryn Cadwgan yn elwa o adnodd gwynt rhagorol. Mae’r safle’ncael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer pori tir amaeth a choedwigaeth.
Oherwydd maint Parc Ynni arfaethedig Bryn Cadwgan, caiff ei ddosbarthu yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) a bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i Weinidogion Cymru benderfynu arno. Mae hyn yn berthnasol i bob prosiect cynhyrchu ynni rhwng 10MW a 350MW.
Er na fydd Cynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion yn penderfynu ar y cais cynllunio, maent yn ymgyngoreion statudol allweddol a byddant yn paratoi Adroddiadau Effaith Lleol fel yr awdurdodau cynllunio lletyol.
Bydd y Cais yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, gyda’r disgwyl y bydd yn barod i’w gyflwyno erbyn diwedd 2024.
Os caiff Parc Ynni Bryn Cadwgan ei gymeradwyo, fe allai’r tyrbinau yn unig gynhyrchu dros 175 megawat (MW), digon i bweru hyd at 115,000 o gartrefi. Gallai hyn arbed hyd at 171,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi Cymru i gyrraedd ei tharged o allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.
Yn ogystal, bydd yn darparu buddion cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol ac i’r rhanbarth ehangach, er enghraifft trwy adeiladu a chyflogaeth weithredol a buddsoddiad economaidd hirdymor.
Mae’r prosiect wedi sicrhau capasiti grid a disgwylir i’r pwynt cysylltu fod yn is-orsaf newydd yng Nglan-y-fferi. Byddai’r cysylltiad â’r grid yn amodol ar gais cynllunio ar wahân yn y dyfodol.