Bydd eich manylion yn cael eu cyflwyno i PCAC ynghyd ag Adroddiad PAC y cais. Bydd hyn yn galluogi PCAC i gysylltu â chi os yw’r cais dan sylw yn cael ei dderbyn i’w archwilio.
Croeso i’n gwefan ar gyfer Parc Ynni Bryn Cadwgan.
Mae Galileo Empower yn datblygu cynigion ar gyfer Parc Ynni Bryn Cadwgan, wedi’i leoli ar ffin Sir Gaerfyrddin/ Ceredigion, tua 10km i’r dwyrain o Lambed, 10km i’r de o Dregaron a 16km i’r gogledd o Lanymddyfri.
Cynhaliwyd ymgynghoriadau cyfnod cynnar ar y cynigion yn Hydref 2023 sydd wedi helpu i lunio fersiwn ddiweddaraf y cynlluniau. Rydyn ni wedi adolygu ein cynigion yn dilyn adborth gan drigolion lleol ac o ganlyniad i arolygon ac astudiaethau safle parhaus.
Mae’r cynigion bellach yn cynnwys:
- 19 tyrbin gwynt gyda 17 tyrbin gydag uchder mwyaf hyd at flaen y llafn o 230m a 2 dyrbin gydag uchafswm uchder o 200m, yn cynhyrchu 137 Megawat (MW) o ynni;
- 12 MW o baneli solar ffotofoltäig (PV) wedi’u gosod ar y ddaear; a
- 50 MW o system storio ynni batri (BESS).
Yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ddatgarboneiddio ein system drydan, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu manteision sylweddol i gymunedau lleol trwy gronfeydd cyfoeth cymunedol, cyflogaeth leol a chyfleoedd busnes, cyfran gymunedol yn y parc ynni a’r cyfle i leihau biliau ynni i’r rhai sy’n byw agosaf at y prosiect.
Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais – Gwanwyn 2025
Mae’r cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio yn rhedeg o ddydd Mercher 20 Awst tan 1 Hydref 2025 (sydd yn disodli’r dyddiad a bennir mewn unrhyw hysbysiad blaenorol). Dyma’r ymgynghoriad olaf cyn i ni gyflwyno ein cynlluniau i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru yn ddiweddarach eleni.
Rydyn ni am glywed eich barn
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r gymuned leol i sicrhau bod pobl yn deall ein cynigion ar gyfer Parc Ynni Bryn Cadwgan yn llawn ac yn gallu rhannu eu barn a’u syniadau gyda ni.
Yn ogystal â’r wybodaeth sydd wedi’i diweddaru ar-lein, rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad ymgynghori personol, lle gallwch weld sut mae’r prosiect wedi datblygu, gweld ein cais cynllunio drafft, cwrdd â’n tîm a rhannu’ch adborth:
- Dydd Mawrth 2il Medi 2025 – Neuadd Bentref Pumsaint (SA19 8UW), 12pm-5pm
- Dydd Mercher 3ydd Medi 2025 – Ymddiriedolaeth Cymunedau Elidyr (SA20 0NL), 2pm-7pm
Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais yma lle bydd yr holl ddogfennau cynllunio drafft ar gael.
Rhannwch eich adborth ar y cynigion yma